Psalms 8

Mae Duw mor fawr!

I'r arweinydd cerdd: Salm ar yr alaw "Y Gwinwryf". Salm Dafydd.

1O Arglwydd, ein brenin,
mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!
Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan!
2Gyda lleisiau plant bach a babanod
rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion,
i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial.
3Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd,
y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle,
4Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?
Pam cymryd sylw o un person dynol?
5Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol,
ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!
6Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo,
a gosod popeth dan ei awdurdod –
7defaid ac ychen o bob math,
a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion;
8yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr,
a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd.
9O Arglwydd, ein brenin,
mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!
Copyright information for CYM